Amodau a Thelerau

Wrth archebu gyda Flowerssimply rydych yn cytuno i’r amodau a thelerau a ganlyn:

Blodau
  • Oherwydd argaeledd tymhorol a lleol ni allwn warantu y bydd cynnwys yr hyn a ddosberthir yn cyfateb yn union â’r hyn a welir ar y wefan.
  • Gyda’r bwriad o ddarparu’r cyflwyniad blodeuol gorau posib mae’n bosib y bydd ein gwerthwyr blodau yn amnewid un eitem neu fwy.
  • Os oes yna flodau neu liwiau penodol yr hoffech i ni eu cynnwys neu eu gadael allan, yna byddwn yn gwneud ein gorau i barchu eich dymuniadau. Defnyddiwch y blwch Cyfarwyddiadau Arbennig ar y sgrîn manylion y derbynnydd.
Rhoddion
  • Os na fydd eitem gennym mewn stoc, mae’n bosib y caiff eitem debyg o’r un pris neu fwy ei hanfon, yn hytrach na’ch siomi a cholli’r dyddiad dosbarthu arfaethedig.
Prisiau
  • Mae’r holl brisiau a nodir yn cynnwys postio, pacio a dosbarthu (fel a ddisgrifir isod) a Treth ar Werth ar y gyfradd arferol.
  • Os digwydd camgymeriad a dangosir pris anghywir ar ein gwefan, mae Flowerssimply yn cadw’r hawl i beidio â chyflenwi’r archeb am y pris hwnnw. Byddwn yn hysbysu’r cwsmer ynghylch y pris cywir a bydd yn cael y dewis i dderbyn neu beidio.
  • Gall y prisiau sy’n daladwy am nwyddau fel a nodir ar ein gwefan newid heb rybudd..
Archebion
  • Byddwch yn derbyn cyfarwyddiadau clir ar sut i gwblhau’r manylion angenrheidiol ar y ffurflen archebu. Drwy glicio ar y botwm ‘Talu’ ar y ffurflen archebu, rydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan yr Amodau a Thelerau hyn a’r rheiny sy’n ymddangos ar unrhyw le ar wefan Flowerssimply ac yn awdurdodi Flowerssimply i gymryd taliad am yr eitem(au) a archebwyd.
  • Mae’n rhaid talu’n llawn am yr holl eitemau a brynir drwy’r wefan hon cyn gellir dosbarthu eich archeb. Rydym yn derbyn yr holl brif gardiau credyd a debyd ar wahân i gardiau Electron. Mae’r holl dudalennau Man Talu sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol yn cael eu diogelu gan ddefnyddio technoleg amgryptio 128-bit gan gyflenwr tystysgrif diogel blaengar, Thawte. Mae Flowerssimply yn cadw’r hawl i beidio â phrosesu archeb os oes y unrhyw amheueath o dwyll. Dan amgylchiadau o’r fath cysylltir â’r cwsmer i gael rhagor o wybodaeth.
  • Bydd e-bost yn cael ei anfon yn awtomatig i gadarnhau bod yr archeb wedi cael ei derbyn a’i bod yn cael ei phrosesu, gwiriwch hyn yn ofalus. Ni fyddwn yn ystyried ein hunain yn rhwym i chi drwy gontract hyd nes y byddwn wedi anfon e-bost yn derbyn yr archeb atoch.
  • Ni ellir derbyn archebion gan gwsmeriaid iau na deunaw oed.
Newidiadau i Archebion
  • Os hoffech newid eich archeb byddwn yn gwneud ein gorau i gyflawni newidiadau munud olaf ar eich rhan ond ni allwn warantu hyn, os na chawn wybod o leiaf 48 awr oflaen llaw.
Canslo Archebion
  • Gellir canslo archebion hyd at 48 awr cyn y dyddiad dosbarthu arfaethedig.
Dosbarthu
  • Gweler ein canllawiau dosbarthu ar ein tudalen gwybodaeth am ddosbarthu. I’n helpu i ddosbarthu’ch blodau’n gywir sicrhewch eich bod yn darparu’r manylion cyfeiriad cywir ar gyfer y derbynnydd dan sylw a manylion cyswllt yn achos problemau dosbarthu. Gwaetha’r modd, ni fyddwn yn gyfrifol am archebion hwyr oherwydd gwybodaeth anghyflawn neu anghywir.
  • Os na fydd y derbynnydd gartref byddwn yn ceisio dosbarthu i gymydog neu’n postio cerdyn drwy’r blwch post yn eich hysbysu ein bod wedi ceisio dosbarthu. Sicrhewch fod y cyfeiriad cywir wedi’i anfon ar gyfer y derbynnydd. Os byddwn yn methu dosbarthu (megis cyfeiriad anghywir ar yr archeb), rydym yn cadw’r hawl i godi costau ychwanegol am ailddosbarthu neu i dynnu’r costau dosbarthu/gwastraff cynnyrch/ffi dychwelyd negesydd o unrhyw ad-daliad os caiff yr archeb ei ganslo wedi hynny.
  • Lle bo trydydd parti mae’n bosib bydd oedi wrth ddosbarthu, megis dosbarthu i ysbytai, gwestai, prifysgolion, swyddfeydd a llongau oherwydd na fyddwn yn gallu dosbarthu’n uniongyrchol i’r derbynnydd unigol. Noder bod yr amgylchiadau hyn y tu hwnt i’n rheolaeth. Yn achos dosbarthu i’r fath leoliadau, mae llofnod unrhyw berson awdurdodedig i dderbyn nwyddau ar ran y sefydliad yn dderbyniol fel prawf dosbarthu e.e. staff y dderbynfa neu ystafell bost. I sicrhau dosbarthu llwyddiannus i’r graddau mwyaf posib rhowch cymaint o wybodaeth â phosib gan gynnwys enw’r adran, enw’r ward, rhif y llawr, rhif yr ystafell etc.
  • Mae ein hatebolrwydd am beidio â dosbarthu cynnyrch yn gyfyngedig i amnewid y cynnyrch o fewn amser rhesymol.
Diffyg / Difrod
  • Byddwn yn gwerthfawrogi ymateb o fewn 24 awr o’r dyddiad dosbarthu, os bydd anfodlonrwydd.
Cwynion
  • Yn Flowerssimply rydym yn gwbl ymroddedig i ddarparu’r gwasanaeth dosbarthu blodau gorau posibl i chi. Os na fyddwch yn fodlon mewn unrhyw fodd â’r gwasanaeth a dderbyniwch, gadewch i ni wybod a byddwn yn ymchwilio i’ch cwyn. Os byddwn yn fodlon bod eich cwyn yn un ddilys byddwn yn amnewid y rhodd neu’n cynnig ad-daliad. Nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol fel cwsmer.
  • Os nad ydych yn hapus â’r gwasanaeth a dderbyniwch rhowch wybod i ni o fewn 24 awr wedi’r dosbarthu a chadwch yr eitem dan sylw. Ni ellir archwilio cwynion ynghylch ansawdd os gwneir y gŵyn ar ôl 7 niwrnod wedi’r dosbarthu. Mae’r holl eitemau hyn (blodau / hamperau bwyd / siocled) yn difetha ac ni ellir eu dychwelyd o dan reolau gwerthu o bellter.
Cyfyngu Atebolrwydd
  • Ni fydd Flowerssimply ar unrhyw adeg yn atebol am unrhyw ddifrod gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ddifrod anuniongyrchol neu ôl-ddilynol, nac unrhyw ddifrod bynnag sy’n deillio o ddefnyddio neu golli defnyddio, data neu elw, boed hynny wrth weithredu contract, drwy esgeulustod neu weithred dwyllodrus arall, yn deillio o ddefnyddio’r wefan hon neu mewn perthynas â hi.
Force Majeure
  • Ni fydd gennym unrhyw atebolrwydd i chi am fethu dosbarthu nwyddau rydych wedi’u harchebu nac unrhyw oedi wrth ddosbarthu nac am unrhyw ddifrod neu nam i nwyddau a ddosbarthwyd a achoswyd oherwydd digwyddiad neu amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth rhesymol, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ee streiciau, cau allan, terfysgaeth ac anghydfod diwydiannoll, methiant systemau neu rwydweithiau mynediad, llifogydd, tân, ffrwydrad, damwain, gweithredoedd gan Dduw, neu weithredoedd neu esgeulustod y Prynwr.
Ymwadiad
  • Nid yw Flowerssimply yn gwarantu bod y swyddogaethau a gynhwysir yn y wefan heb eu amharu nac heb wallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, na bod y wefan neu’r gweinydd sy’n ei chynnal, heb firysau neu fygiau nac yn honni ymarferoldeb, cywirdeb, dibynadwyedd llawn y deunyddiau. Mae’r wefan hon a’r wybodaeth, yr enwau, y delweddau, y lluniau, y logos a’r eiconau ynghylch neu mewn perthynas â Flowerssimply, ei gynnyrch a’i wasanaethau (neu gynnyrch a gwasanaethau trydydd parti), yn cael ei darparu “fel ag y mae” ac “ar gael” heb unrhyw honiadau neu ardystiadau a heb warant o unrhyw fath, wedi’u mynegi neu ymhlyg, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r gwarantau ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol, peidio â thresmasu, cysondeb, diogelwch a chywirdeb sydd ymhlyg.
Polisi Preifatrwydd
  • Rydym yn ymroddedig i amddiffyn eich preifatrwydd (yn unol â Deddf Diogelu Data 1998). Byddwn ond yn defnyddio’r wybodaeth a dderbyniwyd gennych chi at ddibenion prosesu’ch archeb ac i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl yn unig. Ni fyddwn yn rhannu’ch gwybodaeth gyfrinachol ag unrhyw un arall, ac ni fyddwn yn anfon e-bost atoch yn y dyfodol oni bai eich bod wedi rhoi eich caniatâd. Gweler Polisi Preifatrwydd
  • Mae Flowerssimply yn cadw’r hawl i ategu neu newid yr Amodau a Thelerau. Cyfrifoldeb y cwsmer yw adolygu’r Amodau a Thelerau wrth ddefnyddio’r wefan. Byddant yn cael eu rheoli gan gyfraith Lloegr ac mae’r partïon drwy hyn y cytuno i fod yn destun awdurdod neilltuedig Llysoedd Lloegr. Nid yw’r amodau a thelerau hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol.
Hawlfraint
  • Mae’r holl ddelweddau yn y fformat a ddefnyddir, testun, graffeg, a’u dethol a’u trefnu ar y wefan hon yn destun hawlfraint Flowerssimply. Fel ymwelydd â gwefan Flowerssimply fe’ch trwyddedir i gopïo’n electronig neu i argraffu rhannau o’r wefan at eich defnydd personol, anfasnachol. Gwaherddir unrhyw ddefnydd arall o ddeunyddiau’r wefan hon heb ganiatâd ysgrifenedig Flowerssimply ymlaen llaw.
Dyluniwyd gan: Paul Butler - Obscura Design