 |
Gofalu am Flodau
Dilynwch y camau syml hyn i sicrhau bod eich blodau hardd yn para:
Wedi iddynt gyrraedd...- Agorwch eich blodau’n ofalus cyn gynted â phosib.
- Os byddwch yn derbyn tusw wedi’i glymu â llaw gadewch y cwlwm o amgylch y coesau er mwyn cynnal y siâp.
- Torrwch 3cm oddi ar bob coes ar ongl o 45 gradd gan ddefnyddio cyllell finiog. Gellir defnyddio siswrn ond nid ydynt cystal ar gyfer y blodau gan eu bod yn pylu’r coesau a gall hynny eu hatal rhag amsugno dŵr.
- Tynnwch y dail sy’n is na lefel y dŵr gan y byddant yn pydru ac yn achosi bacteria a fydd yn lladd y blodau cyn eu hamser.
- Trefnwch eich tusw mewn fâs lân wedi’i llenwi â dŵr claear a bwyd blodau.
- Os byddwch yn derbyn trefniad blodau mewn blocyn oasis, dyfriwch y blocyn gyda thoddiant bwyd blodau ac yna’i gadw’n llaith drwy ei ddyfrio bob 2-3 diwrnod.
Cofiwch…
- Sicrhau bod eich fasys yn lân – defnyddiwch gannydd neu lanhawr priodol.
- Defnyddiwch ddŵr claear, ffres gan ei fod yn cynnwys llai o ocsigen, ac felly’n lleihau’r risg o swigod aer yn y coesau a all atal y blodau rhag amsugno dŵr.
- Defnyddiwch y pecyn o fwyd blodau wedi’u torri gan y bydd yn atal bacteria rhag tyfu yn y dŵr ac yn bwydo eich blodau ac yn eu hamddiffyn.
- Gosodwch eich blodau mewn lleoliad oer oddi wrth wres, drafft a golau’r haul.
- Sicrhewch nad yw eich blodau ger ffrwythau neu lysiau gan eu bod yn rhyddhau nwy ethylen sy’n heneiddio blodau ffres cyn eu hamser.
Peidiwch ag anghofio…
- Tynnu’r paill oddi ar y lilis.
- Gwirio lefel y dŵr yn y fâs yn rheolaidd ac ychwanegu dŵr ffres. Os yw’n bosibl, byddai ei newid yn ddyddiol yn estyn oes eich blodau.
- Torrwch y coesau unwaith yn rhagor ar ôl wythnos, gan y bydd hyn yn eu helpu i amsugno dŵr.
- Tynnwch unrhyw flodau sy’n dangos arwyddion o wywo neu bylu.
Dyluniwyd gan: Paul Butler - Obscura Design
|
|
|