 |
Dosbarthu
Dyddiau dosbarthu – Archebion blodau’r DU
-
Dydd Llun i ddydd Sadwrn.
-
Ni ddosberthir blodau ar y Sul fel arfer ond gallwn drefnu hyn ar eich cyfer o gael 2-3 diwrnod o rybudd ac am dâl ychwanegol.
-
Gwaetha’r modd nid yw’n bosibl dosbarthu blodau yn ystod gwyliau banc y DU.
Dosbarthu blodau o fewn yr un diwrnod
Tâl dosbarthu
*Gall dosbarthu i rai mannau anghysbell, Gogledd Iwerddon a rhai ynysoedd gymryd yn hwy a chodir tâl dosbarthu ychwanegol. Byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol os bydd y tâl ychwanegol hwn yn gymwys.
Amserau dosbarthu
-
Fel arfer dosberthir blodau gan ein gwerthwyr blodau rhwng 9am a 6pm. Dosberthir y rhoddion eraill gan negesydd /post busnes fel arfer rhwng 9am a 5.30pm.
-
Gwaetha’r modd ni allwn warantu dosbarthu ar adegau penodol nac am/pm, er byddwn yn gwneud ein gorau. Os yw amser penodol yn hanfodol, mae’n bosib y gallwn drefnu hyn ar eich cyfer am dâl ychwanegol.
Archebion angladd
Rhoddion
-
Sylwer y bydd eich archebion blodau a rhoddion sydd i’w dosbarthu i’r un cyfeiriad yn cyrraedd ar wahân. Caiff y blodau eu dosbarthu gan eich gwerthwr blodau lleol a chaiff y rhoddion eu dosbarthu gan negesydd/post busnes.
-
Bydd archebion a gyflwynir wedi 12 ganol dydd ar ddydd Gwener yn cael eu prosesu ddydd Llun ac yn cael eu dosbarthu ddydd Mawrth.
-
Gwaetha’r modd ni allwn ddosbarthu rhoddion ar y Sul.
- Tuswau Dillad Baban
-
Dosbarthu’r diwrnod canlynol gyda phost busnes dydd Llun i ddydd Gwener os archebir erbyn 12pm.
-
Ni allwn ddosbarthu i ward mamolaeth gan nad yw llawer o ysbytai yn derbyn nwyddau a ddosberthir i gleifion bellach.
-
Rydym yn argymell eich bod yn dosbarthu’n uniongyrchol i gartref y derbynnydd a fydd yn golygu bod syrpreis hyfryd yn aros amdano/amdani wedi iddo/iddi ddychwelyd o’r ysbyty.
- Tyrau Rhoddion a Blychau Gwin
-
Mae angen 2 ddiwrnod gwaith i brosesu a dosbarthu eich archeb e.e. bydd archeb a wneir ddydd Llun yn cael ei ddosbarthu ddydd Mercher gan Parcelforce Worldwide.
-
Dosbarthu – dydd Llun i ddydd Gwener os archebir cyn 12pm.
Cyfeiriadau Dosbarthu
-
Cofiwch fod blodau’n eitemau darfodus. Sicrhewch eich bod yn rhoi’r cyfeiriad dosbarthu cywir, gan gynnwys côd post a manylion cyswllt i sicrhau nad oes oedi wrth ddosbarthu.
-
Os mai cyfeiriad gwaith ydyw, nodwch yr amserau y bydd y derbynnydd ar gael yn y cyfeiriad hwnnw, neu os yw’n gyfeiriad preifat, nodwch pryd maent yn debygol o fod adref.
-
Os na fydd person adref byddwn yn ceisio dosbarthu i gymydog neu’n gadael cerdyn yn nodi ein bod wedi ceisio dosbarthu.
-
Rhowch gymaint o wybodaeth â phosib ar gyfer ysbytai swyddfeydd, llongau a gwestai os gwelwch yn dda, e.e. enw’r ward/rhif. Bydd llofnod unrhyw berson awdurdodedig i dderbyn y nwyddau ar ran sefydliad yn cael ei dderbyn fel prawf dosbarthu. Gwiriwch ymlaen llaw fod ysbytai’n fodlon eu derbyn.
-
Os ceisiwn ddosbarthu a methu am fod gennym y manylion anghywir bydd angen i ni godi tâl ychwanegol i ailddosbarthu.
- Tuswau Dillad Baban
-
Os nad yw’r person adref byddwn yn gadael cerdyn fel y gallant drefnu ailddosbarthu gyda Phost Busnes.
-
Rhoddir dau gynnig ar ddosbarthu ac os na cheir ymateb mae’n bosib y codir tâl ailddosbarthu o £4.00.
-
Os na dderbynnir ymateb 5 niwrnod wedi i ni adael yr ail gerdyn bydd y nwyddau’n cael eu dychwelyd a chodir tâl ailddosbarthu o £4.95.
- Tyrau Rhoddion a Blychau Gwin
-
Os nad yw’r person adref bydd Parcelforce yn ceisio ailddosbarthu y diwrnod canlynol.
- Os nad oes rhywun yno i’w dderbyn yr ail ddiwrnod, gadewir cerdyn gyda manylion y depo lleol er mwyn i’r derbynnydd ei gasglu.
-
Os na chaiff ei gasglu ymhen 21 diwrnod bydd yr eitemau’n cael eu dychwelyd a bydd tâl ailddosbarthu’n cael ei godi. Mae’n bosib y byddwn hefyd yn codi am unrhyw eitemau darfodus a fyddai’n anaddas i’w gwerthu.
-
Bydd angen llofnodi am bopeth a gaiff ei ddosbarthu.
Dosbarthu Rhyngwladol
-
Blodau
-
Ewch i’n hadran Ryngwladol i archebu. Mae amserlenni dosbarthu’n amrywio o wlad i wlad a gall gymryd hyd at 3 diwrnod gwaith.
-
Gall y gyfradd gyfnewid, argaeledd rhanbarthol a thymhorau blodau effeithio ar ddosbarthu rhyngwladol, ond byddwn yn rhoi gwybod i chi os digwydd hynny.
-
Rhoddion
- Gwaetha’r modd ni ellir dosbarthu’r eitemau hyn dramor. Gellir ond dosbarthu o fewn y DU.
Dyluniwyd gan: Paul Butler - Obscura Design
|
|