Preifatrwydd & Diogelwch

Diogelwch

  • Mae Flowerssimply yn wefan ddiogel. Bob tro y byddwch yn agor tudalen ar y wefan sydd yn cynnwys neu’n gofyn am wybodaeth sensitif megis manylion eich cerdyn credyd, bydd clo yn ymddangos i nodi bod y safle yn un diogel. Gellir gwirio hyn drwy edrych ar nodweddion y dudalen drwy dde-glicio ar y dudalen a dewis "Properties". Bydd hyn yn gwirio bod y dudalen yn cael ei chynnal yn ddiogel gan Secure Trading, a’i bod wedi’i hamgryptio a bod ganddi dystysgrif diogelwch ddilys.
Get Safe Online
  • Nid fyddwn yn storio eich manylion talu o gwbl, nid yn ddigidol nac fel arall. Rydym yn cadw eich gwybodaeth at ddibenion archebu’n unig. Caiff taliadau eu hawdurdodi gan ddefnyddio system prosesu cardiau credyd amser real a ddarperir gan Secure Trading. Nid ydym yn storio eich manylion talu ar ôl i ni brosesu’ch taliad.
Secure payments with Secure Trading
  • Mae ein tudalennau’n cael eu diogelu gan ddefnyddio technoleg amgryptio 128-bit gan gyflenwr tystysgrif diogelwch blaengar COMODO sy’n defnyddio safonau diogelwch Haen Socedi Diogel (SSL). Mae SSL yn amgryptio eich gwybodaeth bersonol ac mae eich holl fanylion yn cael eu diogelu gan dechnoleg amgryptio bwerus SSL. Mae SSL yn amgryptio eich rhif cerdyn credyd, eich enw, eich cyfeiriad, eich rhif ffôn a’r cyfrinair wrth iddynt deithio drwy’r Rhyngrwyd, fel na all unrhyw un arall eu darllen heblaw am y gweinydd diogel. Mae hyn yn rhoi profiad archebu ar-lein diogel a saff i’r holl gwsmeriaid.
Comodo protecting your personal information and transactions
  • Fel rhan o’n hymrwymiad i’ch diogelwch, caiff ein safle ei brofi a’i wirio yn ddyddiol i lwyddo yn sgan diogelwch "McAfee Secure". Mae’r broses hon yn mynd ymhell i fynd i’r afael â phryderon ynglŷn â mynediad posib gan hacwyr i’ch data cyfrinachol ac yn atal rhywun rhag dwyn eich hunaniaeth. Nid ydyw’r safle wedi llwyddo yn y sgan diogelwch dyddiol os nad yw logo McAfee Secure yn cael ei ddangos.
McAfee Secure sites help keep you safe from identity theft, credit card fraud, spyware, spam, viruses and online scams

A ninnau wedi’n hymrwymo i ddarparu’r nodweddion gwarchodaeth ar-lein fwyaf datblygedig, rydym yn cefnogi gwasanaethau diogelwch “Verified by VISA” a “MasterCard SecureCode”. Gyda rhai dosbarthwyr cardiau mae’r gwasanaethau hyn yn ddewisol ond er mwyn sicrhau eich diogelwch ac atal defnydd o’ch cerdyn gan drydydd parti rydym yn argymell eich bod yn defnyddio’r gwasanaethau hyn os ydynt ar gael gan ddosbarthydd eich cerdyn. Fersiwn ar-lein o ‘chip a pin’ ydynt i bob pwrpas gan ddefnyddio cyfrinair yn hytrach na rhif pin.

 
  • Mae "Verified by VISA" yn wasanaeth newydd sy’n eich galluogi i siopa ar-lein gyda mwy o hyder. Mae "Verified by Visa" yn cadarnhau pwy ydych chi pan brynwch bethau mewn siopau ar-lein cyfrannol – mae’n gyfleus ac yn gweithio gyda’ch cerdyn Visa cyfredol. Rydych yn cofrestru eich cerdyn unwaith yn unig ac yn creu eich cyfrinair eich hun. Yna, pan fyddwch yn prynu mewn siopau ar-lein cyfrannol, bydd ffenestr "Verified by Visa" yn ymddangos. Yn syml, rhowch eich cyfrinair i mewn a chliciwch ar ‘cyflwyno’. Bydd eich hunaniaeth yn cael ei wirio a bydd y pryniant yn ddiogel. Cliciwch y logo "Verified by Visa" i ddysgu mwy.
Verified by Visa
  • Mae MasterCard, ynghyd â’ch banc sy’n dosbarthu cerdyn i chi, yn malio am ddiogelwch ar-lein ei ddeiliaid cardiau. Mae "MasterCard SecureCode" yn ehangu ar eich cerdyn MasterCard cyfredol gyda chod cyfrinachol i amddiffyn rhag defnydd anawdurdodedig o’ch cerdyn pan fyddwch yn siopa ar-lein gyda masnachwyr cyfrannol. Cliciwch ar y logo "MasterCard SecureCode" i weld a allwch chi gofrestru gyda dosbarthwyr y cerdyn ar gyfer "MasterCard SecureCode" yn awr. Os nad yw eich dosbarthwr ar y rhestr, dewch yn ôl yn fuan i weld - mae dosbarthwyr newydd yn cael eu hychwanegu drwy’r adeg.
MasterCard SecureCode

Preifatrwydd

  • Rydym yn ymroddedig i ddiogelu eich preifatrwydd. Ni fyddwn yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwn amdanoch yn gyfreithiol (yn unol â Deddf Diogelu Data 1998).
  • Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch am ddau reswm: yn gyntaf, i broses eich archeb ac yn ail, i roi’r gwasanaeth gorau posibl. Mae’r math o wybodaeth y byddwn yn ei gasglu amdanoch yn cynnwys: eich enw, eich cyfeiriad, eich rhifau ffôn a’ch cyfeiriad e-bost.
  • Ni fyddir yn gwerthu, cyfnewid, trosglwyddo, na rhoi eich manylion personol i unrhyw drydydd parti pa beth bynnag heb eich caniatâd, heblaw at y diben penodol o ddosbarthu’r cynhyrchion a brynwyd”.
  • Gallwch wirio pa wybodaeth sydd gennym amdanoch drwy anfon e-bost atom. Os dewch o hyd i unrhyw wallau byddwn yn eu dileu neu’n eu cywiro ar unwaith. Bydd y wybodaeth bersonol sydd gennym yn cael ei chadw’n ddiogel yn unol â’n polisi diogelwch mewnol a’r gyfraith.

© Flowerssimply 2008 | Gwefan wedi’i Ddylunio gan: Paul Butler Design | Diogelwch a Preifatrwydd | Amodau a Thelerau | Map o’r Safle | | | [HTML 4.1] | [CSS]

SSL