 |
Diogelwch a Phreifatrwydd
-
Mae Flowerssimply yn wefan ddiogel. Bob tro byddwch yn agor tudalen ar y wefan sydd yn cynnwys neu’n gofyn am wybodaeth sensitif megis manylion eich cerdyn credyd, bydd clo yn ymddangos i nodi bod y safle yn un diogel. Gellir gwirio hyn drwy edrych ar nodweddion y dudalen drwy de-glicio ar y dudalen a dewis "Properties". Bydd hyn yn gwirio bod y dudalen yn cael ei chynnal yn ddiogel gan Secure Trading, ei bod wedi’i hamgryptio a bod ganddi dystysgrif diogelwch dilys.
-
Nid ydym yn storio eich manylion talu o gwbl, nid yn ddigidol nac fel arall. Rydym yn cadw eich gwybodaeth at ddibenion archebu’n unig. Caiff taliadau eu hawdurdodi gan ddefnyddio system prosesu cardiau credyd amser real a ddarperir gan Secure Trading. Nid ydym yn storio eich manylion talu ar ôl i ni brosesu’ch taliad.
-
Mae ein tudalennau’n cael eu diogelu gan ddefnyddio technoleg amgryptio 128-bit gan gyflenwr tystysgrif diogelwch blaengar Thawte sy’n defnyddio safonau diogelwch Haen Socedi Diogel (SSL). Mae SSL yn amgryptio eich gwybodaeth bersonol ac mae eich holl drafodion yn cael eu diogelu gan dechnoleg amgryptio bwerus SSL. Mae SSL yn amgryptio eich rhif cerdyn credyd, eich enw, eich cyfeiriad, eich rhif ffôn a’r cyfrinair wrth iddynt deithio drwy’r Rhyngrwyd, fel na all rhywun arall eu darllen heblaw am y gweinydd diogel. Mae hyn yn rhoi profiad archebu ar-lein diogel a saff i’r holl gwsmeriaid.
-
Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch am 2 reswm: yn gyntaf, i broses eich archeb ac yn ail, i’ch darparu â’r gwasanaeth gorau posib. Mae’r math o wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch yn cynnwys: eich enw, eich cyfeiriad, eich rhifau ffôn a’ch cyfeiriad e-bost. Ni fyddwn byth yn rhannu’ch gwybodaeth gyfrinachol ag unrhyw un, ac ni fyddwn yn anfon e-bost atoch yn y dyfodol oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny.
-
Os oes gennych unrhyw gwestiynau/sylwadau ynghylch preifatrwydd, cysylltwch â ni.
Dyluniwyd gan: Paul Butler - Obscura Design |
 |