 |
Amodau a Thelerau
Wrth archebu gyda Flowerssimply rydych yn cytuno i’r amodau a thelerau a ganlyn:
Blodau
-
Oherwydd argaeledd tymhorol a lleol ni allwn warantu y bydd cynnwys yr hyn a ddosberthir yn cyfateb yn union â’r hyn a welir ar y wefan.
-
Gyda’r bwriad o ddarparu’r cyflwyniad blodeuol gorau posib mae’n bosib y bydd ein gwerthwyr blodau yn amnewid un eitem neu fwy.
-
Os oes yna flodau neu liwiau penodol yr hoffech i ni eu cynnwys neu eu gadael allan, yna byddwn yn gwneud ein gorau i wneud yn ôl eich dymuniadau. Defnyddiwch y blwch Cyfarwyddiadau Arbennig ar y sgrîn manylion y derbynnydd.
Rhoddion
Prisiau
Archebion
-
Byddwch yn derbyn cyfarwyddiadau clir ar sut i gwblhau’r manylion angenrheidiol ar y ffurflen archebu. Drwy glicio ar y botwm ‘Talu’ ar y ffurflen archebu, rydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan yr Amodau a Thelerau hyn a’r rheiny sy’n ymddangos unrhyw le ar wefan Flowerssimply ac yn awdurdodi Flowerssimply i gymryd taliad am yr eitem(au) a archebwyd.
-
Mae’n rhaid talu’n llawn am yr holl eitemau a brynir drwy’r wefan hon cyn gellir dosbarthu eich archeb. Rydym yn derbyn yr holl brif gardiau credyd a debyd ar wahân i gardiau Electron. Mae’r holl dudalennau Man Talu sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol yn cael eu diogelu gan ddefnyddio technoleg amgryptio 128-bit gan gyflenwr tystysgrif diogel blaengar, Thawte. Mae Flowerssimply yn cadw’r hawl i beidio â phrosesu archeb os cred y defnyddiwyd y cerdyn credyd drwy dwyll. Dan y fath amgylchiadau cysylltir â’r cwsmer i gael rhagor o wybodaeth.
Newidiadau i Archebion
Canslo Archebion
Dosbarthu
-
Gweler ein canllawiau dosbarthu ar ein tudalen gwybodaeth am ddosbarthu. I’n helpu i ddosbarthu’ch blodau’n gywir sicrhewch eich bod yn darparu’r manylion cyfeiriad cywir ar gyfer y derbynnydd dan sylw a manylion cyswllt yn achos problemau dosbarthu. Gwaetha’r modd, nid ydym yn gyfrifol am archebion a gaiff eu hoedi oherwydd gwybodaeth anghyflawn neu anghywir.
-
Os na fydd y derbynnydd gartref byddwn yn ceisio dosbarthu i gymydog neu’n postio cerdyn drwy’r blwch post yn eu hysbysu ein bod wedi ceisio dosbarthu. Sicrhewch fod yn cyfeiriad cywir wedi’i ddarparu ar gyfer y derbynnydd. Os byddwn yn methu wrth geisio dosbarthu (megis cyfeiriad anghywir ar yr archeb), rydym yn cadw’r hawl i godi costau ychwanegol am ailddosbarthu neu i dynnu’r costau dosbarthu/gwastraff cynnyrch/ffi ddychwelyd negesydd o unrhyw ad-daliad os caiff yr archeb ei ganslo wedi hynny.
-
Lle bo trydydd parti mae’n bosib bydd oedi wrth ddosbarthu, megis dosbarthu i ysbytai, gwestai, prifysgolion, swyddfeydd a llongau am ei bod yn bosib na fyddwn yn gallu dosbarthu’n uniongyrchol i’r derbynnydd a fwriedir. Noder bod yr amgylchiadau hyn y tu hwnt i’n rheolaeth. Yn achos dosbarthu i’r fath leoliadau, mae llofnod unrhyw berson awdurdodedig i dderbyn nwyddau ar ran y sefydliad yn dderbyniol fel prawf dosbarthu e.e. staff y dderbynfa neu ystafell bost. I sicrhau dosbarthu llwyddiannus i’r graddau mwyaf posib rhowch cymaint o wybodaeth â phosib gan gynnwys enw’r adran, enw’r ward, rhif y llawr, rhif yr ystafell etc.
Diffyg / Difrod
Cwynion
-
Yn Flowerssimply rydym yn gwbl ymroddedig i ddarparu’r gwasanaeth dosbarthu blodau gorau posibl i chi. Bydd Flowerssimply yn ymchwilio i’ch cwyn ac yn ceisio ymateb o fewn 5 niwrnod gwaith pan na fydd hi yn ystod ein hadegau prysuraf. (Mae’n bosib bydd pethau’n cymryd yn hwy yn ystod y Nadolig, Dydd Sant Ffolant a Sul y Mamau). Byddwn yn rhoi gwybod i chi am y sefyllfa drwy gydol y broses ac os ydym yn fodlon bod eich cwyn yn un ddilys byddwn yn amnewid y rhodd neu’n cynnig ad-daliad. Nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol fel cwsmer.
Cyfyngu Atebolrwydd
-
Ni fydd Flowerssimply ar unrhyw adeg yn atebol am unrhyw ddifrod gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ddifrod anuniongyrchol neu ôl-ddilynol, nac unrhyw ddifrod bynnag sy’n deillio o ddefnyddio neu golli defnyddio, data neu elw, boed hynny wrth weithredu contract, drwy esgeulustod neu weithred dwyllodrus arall, yn deillio o ddefnyddio’r wefan hon neu mewn perthynas â hi.
Force Majeure
-
Ni fydd gennym unrhyw atebolrwydd i chi am fethu dosbarthu nwyddau rydych wedi’u harchebu nac unrhyw oedi wrth ddosbarthu nac am unrhyw ddifrod neu nam i nwyddau a ddosbarthwyd a achoswyd oherwydd digwyddiad neu amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth resymol, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, streiciau, cau allan, terfysgaeth ac anghydfod diwydiannol eraill, methiant systemau neu rwydweithiau mynediad, llifogydd, tân, ffrwydrad, damwain, gweithredoedd gan Dduw, neu weithredoedd neu esgeulustod y Prynwr.
Ymwadiad
-
Nid yw Flowerssimply yn gwarantu bod y swyddogaethau a gynhwysir yn y wefan heb eu amharu nac heb wallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, na bod y wefan neu’r gweinydd sy’n ei chynnal, heb firysau neu fygiau nac yn honni ymarferoldeb, cywirdeb, dibynadwyedd llawn y deunyddiau. Mae’r wefan hon a’r wybodaeth, yr enwau, y delweddau, y lluniau, y logos a’r eiconau ynghylch neu mewn perthynas â Flowerssimply, ei gynnyrch a’i wasanaethau (neu gynnyrch a gwasanaethau trydydd parti), yn cael ei darparu “fel ag y mae” ac “ar gael” heb unrhyw honiadau neu ardystiadau a heb warant o unrhyw fath, wedi’u mynegi neu ymhlyg, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r gwarantau ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol, peidio â thresmasu, cysondeb, diogelwch a chywirdeb sydd ymhlyg.
Polisi Preifatrwydd
-
Rydym yn ymroddedig i amddiffyn eich preifatrwydd (yn unol â Deddf Diogelu Data 1998). Byddwn ond yn defnyddio’r wybodaeth a dderbyniwyd gennych chi at ddibenion prosesu’ch archeb ac i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i chi. Ni fyddwn byth yn rhannu’ch gwybodaeth gyfrinachol ag unrhyw un, ac ni fyddwn yn anfon e-bost atoch yn y dyfodol oni bai eich bod wedi rhoi eich caniatâd. Gweler Polisi Preifatrwydd.
Hawlfraint
-
Mae’r holl ddelweddau yn y fformat a ddefnyddir, testun, graffeg, a’u dethol a’u trefnu ar y wefan hon yn destun hawlfraint Flowerssimply. Fel ymwelydd â gwefan Flowerssimply fe’ch trwyddedir i gopïo’n electronig neu i argraffu rhannau o’r wefan at eich defnydd personol, anfasnachol. Gwaherddir unrhyw ddefnydd arall o ddeunyddiau’r wefan hon heb ganiatâd ysgrifenedig Flowerssimply ymlaen llaw.
Dyluniwyd gan: Paul Butler - Obscura Design
|
|